Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
12 Ionawr 2015
CLA473 - Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (O.S. 1992/3238) (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41) (“Deddf 1988”), mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rheolau hynny ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 drwy roi paragraff 3 newydd yn lle paragraff 3 o Atodlen 1 i Reoliadau 1992. Mae’r canrannau o ran rhyddhad yn ôl disgresiwn ym mharagraff 3 yn aros yn ddigyfnewid; mae’r diwygiadau yn ganlyniadol ar ddiwygiadau i adran 47 o Ddeddf 1988 a wneir gan adran 69 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), ac yn eu hystyried.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn rhoi Atodlen 4 newydd yn lle’r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).
CLA474 - Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan ymgymerwr y mae ei ardal yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.
O dan adran 144C(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (p. 56), mae dyletswydd ar berchennog mangre breswyl nad yw’n byw yn y fangre honno i drefnu i’r ymgymerwr gael gwybodaeth am feddianwyr y fangre. Mae adran 144C(3) o’r Ddeddf honno yn darparu y bydd methiant gan y perchennog i ddarparu’r wybodaeth yn golygu y bydd y perchennog yn atebol gyda’r meddianwyr, ar y cyd ac yn unigol, am ffioedd dŵr a charthffosiaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i gael ei rhoi am y meddianwyr ac am yr amseru a’r weithdrefn sy’n gysylltiedig â darparu’r wybodaeth honno.
CLA475 - Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Er mwyn gweithredu diwygiad y Polisi Amaethyddol Cyffredin, mae casgliad o ddeddfwriaeth newydd yr UE wedi dod i rym. Mae’r ddeddfwriaeth honno yn delio â’r mater o sut y dylid rhoi cymorth allan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae angen y Rheoliadau hyn i weithredu’r ddeddfwriaeth UE yng Nghymru. Maent yn gam technegol sydd ei angen i alluogi cyflawniad y Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020 (RDG).
Heb y Rheoliadau hyn, ni fyddai gan Weinidogion Cymru'r pwerau i dderbyn, talu neu adennill unrhyw gymorth ariannol o dan y RDG.
Ymhlith pethau eraill, mae’r Rheoliadau yn galluogi Gweinidogion Cymru i:
Cymeradwyo gweithrediadau ar gyfer derbyn cymorth ariannol
Talu cymorth ariannol i fuddiolwyr
Dirymu, atal neu adennill cymorth ariannol
Awdurdodi personau i fynd i mewn i fangre ac i orfodi.
CLA476 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru. Mae rhai o’r diwygiadau yn cyflwyno darpariaethau newydd. Mae diwygiadau eraill yn gwneud cywiriadau.
Ac eithrio fel a grybwyllir isod, mae’r Gorchymyn hwn yn cael effaith ôl-weithredol o 1 Gorffennaf 2013. Rhoddir y pŵer i roi effaith i’r Gorchymyn yn ôl-weithredol gan adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 fel y’i cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno.
Mae’r gwelliannau a wnaethpwyd gan baragraffau 2(f)(ii), (iii), (iv), a 2(g), yn weithredol ers 11 Ebrill 2011.
CLA478 - Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1073 (Cy. 111)) lle nodir y cynllun digolledu ar gyfer diffoddwyr tân a phobl sy'n ddibynnol ar ddiffoddwyr tân yng Nghymru (“y Cynllun Digolledu”).
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â'r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn a pharagraffau 6 a 7 o'r Atodlen iddo – maent yn darparu bod y Cynllun Digolledu, ar ei ffurf anniwygiedig, i barhau i fod yn gymwys mewn rhai amgylchiadau penodol.
CLA479 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu Rheoliadau CE ynghylch gweinyddu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Maent yn dirymu a disodli rheoliadau Cymreig presennol yn y maes hwn, yn rhan o ddiwygiad ledled yr UE.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer (ymhlith pethau eraill): (i) y dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais am daliad gan ffermwyr, (ii) maint lleiaf o dir amaethyddol y ceir gwneud cais mewn perthynas ag hi, (iii) adennill taliadau, (iv) pwerau mynediad a gorfodi, a (v) troseddau a chosbau.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn (ac Atodlenni 1 a 2) yn gosod safonau lleiaf ar gyfer cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da ar fuddiolwyr taliadau. Er enghraifft, mae safonau ynghylch diogelu dŵr daear, isafswm gorchudd pridd a llosgi grug.
CLA480 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn uwchraddio rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo cymhwysedd ceisydd o ran hawl i ostyngiad, a lefel y gostyngiad, o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae’r rheoliadau yn ymwneud â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel "Rheoliadau 2013").
Mae'r ffigurau a gaiff eu huwchraddio yn ymwneud â:-
Gwneir diwygiadau pellach i Reoliadau 2013 sy'n:-
· Dileu'r gofyniad i awdurdod lleol gyhoeddi cynllun drafft yn sgil diwygiadau a wnaed i'r gofynion rhagnodedig;
· Ymgorffori cyflwyno absenoldeb rhiant a rennir a thâl rhiant statudol a rennir i'r rheolau ar gyfer cyfrifo hawl i ostyngiad;
· Darparu na fydd bod â hawl i Lwfans Chwilio am waith ar sail incwm bellach yn rhoi mynediad i Ostyngiad treth gyngor ar gyfer ceiswyr gwaith sy'n wladolion o'r ardal economaidd Ewropeaidd;
· Gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol mewn perthynas â diffiniadau o ran lwfans cyflogaeth a chymorth a'r cyfeiriadau at gredyd cynhwysol.